Ar ôl y cyhoeddiad diweddar y bydd Mark Drakeford yn rhoi’r gorau i fod yn arweinydd y Blaid Lafur Gymreig a Phrif Weinidog Cymru, mae’r ornest am ei olynydd wedi dechrau. Gyda dau ymgeisydd, Vaughan Gething AS a Jeremy Miles AS yn rhedeg, bydd aelodau Llafur yn pleidleisio i ddewis ei olynydd yn fuan.
Sut mae sicrhau bod dementia ar frig eu hagenda?
Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog, cefnogodd Mark Drakeford ein gwaith, gan godi’r angen am weithredu ar ddementia yng Nghynhadledd Cymdeithas Alzheimer Cymru ac yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog.
Pwy bynnag fydd yn ennill y gystadleuaeth fydd yn gyfrifol am holl system Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddant yn cael y cyfle i drawsnewid bywydau pobl sy'n byw gyda dementia. Felly, rydym am wneud yn siŵr eu bod yn rhannu ein cred bod angen inni wneud dementia yn flaenoriaeth yng Nghymru.
A wnewch chi ofyn i’ch cynrychiolwyr etholedig Llafur alw ar Vaughan Gething a Jeremy Miles i addo’n gyhoeddus i wneud dementia yn flaenoriaeth yng Nghymru?